Job 4

Y cylch cyntaf o ddadleuon

(Job 4:1—14:22)

Ymateb Eliffas: Mae'r dieuog yn llwyddo

1A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:

2“Wnei di faddau i mi os gwna i fentro dweud gair?
Mae'n anodd peidio dweud rhywbeth!
3Meddylia gymaint o bobl wnest ti eu dysgu,
a'r holl rai gwan wnest ti eu hannog a'u helpu.
4Roedd dy eiriau yn cynnal y rhai oedd yn baglu,
ac yn cryfhau'r rhai oedd yn simsanu.
5Ond nawr, mae wedi digwydd i ti,
a fedri di ddim godde'r peth;
mae drwg wedi dy daro,
a dyma ti yn anobeithio!
6Ydy dy grefydd ddim yn dy gynnal?
Ydy dy fywyd da ddim yn rhoi gobaith i ti?
7Meddylia am eiliad, gafodd rhywun dieuog ei ddifa erioed?
Ble cafodd y rhai sy'n byw'n iawn eu difa'n llwyr?
8Fel yma dw i'n ei gweld hi: Y rhai sy'n aredig drygioni
ac yn hau helynt sy'n medi cynhaeaf hynny!
9Mae Duw yn chwythu arnyn nhw,
ac maen nhw'n cael eu difa;
maen nhw'n diflannu gydag anadl ei ffroenau.
10Maen nhw fel y llew yn rhuo, a'i rai bach yn cwyno,
pan mae dannedd y llewod ifanc wedi eu torri.
11Heb ysglyfaeth mae'r llew cryf yn marw,
a chenawon y llewes yn mynd ar wasgar.

Gweledigaeth Eliffas

12Ces neges yn dawel o'r dirgel,
dim ond sibrydiad bach a glywais.
13Yng nghanol breuddwydion dryslyd y nos,
pan mae pobl yn cysgu'n drwm.
14Ro'n i wedi dychryn, ac yn crynu trwof;
roedd fel ias drwy fy esgyrn i gyd!
15Teimlais awel yn pasio heibio i'm hwyneb,
a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.
16Roedd siâp rhywun yn sefyll o'm blaen,
ond doeddwn i ddim yn ei nabod.
Tawelwch, ac yna clywais ei lais yn sibrwd:
17‘Ydy person dynol yn fwy cyfiawn na Duw?
Ydy pobl yn fwy pur na'r Un wnaeth nhw?
18Os ydy Duw ddim yn trystio ei weision,
ac yn cyhuddo ei angylion o fod yn ffôl,
19pa obaith sydd i'r rhai sy'n byw mewn corff o bridd,
ac yn tarddu o'r llwch –
y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn!
20Gallan nhw gael eu sathru'n farw,
unrhyw bryd rhwng gwawr a machlud,
a'u difa'n llwyr am byth, heb neb yn cymryd sylw.
21Mae rhaffau eu pebyll daearol yn cael eu codi,
ac maen nhw'n marw mewn anwybodaeth.’
Copyright information for CYM